Llestri'r Dylluan
Share
Summary
A Welsh adaptation by Bethan Gwanas of The Owl Service by Alan Garner. This is a skilled horror story for teenagers about three young people who are forced to recreate the tale of Blodeuwedd, the woman made of flowers, from the Mabinogion.
Shopping for books made easy
- FAST UK Delivery
- Support small business
- Despatched in fully recyclable packaging
- Excellent customer service
- Summary
- Author
- Product Details
- Review
A Welsh adaptation by Bethan Gwanas of The Owl Service by Alan Garner. This is a skilled horror story for teenagers about three young people who are forced to recreate the tale of Blodeuwedd, the woman made of flowers, from the Mabinogion.
Title: Llestri'r Dylluan
Author: Alan Garner,Bethan Gwanas
ISBN: 9781912261406
Binding:
Publisher: Atebol Cyfyngedig
Publication Date: 2018-02-23
Number of Pages: 224
Weight: 0.2601 kg
Addasiad o nofel The Owl Service gan Alan Garner yw Llestri’r Dylluan. Cyhoeddwyd y hi yn gyntaf yn 1967 ac ar y pryd, câi ei hystyried yn chwyldroadol ym myd llenyddiaeth plant oherwydd y defnydd o chwedl, ffantasi a gwyddonias. Yn wir, enillodd y nofel wobr nodedig y Fedal Carnegie a gwobr ffuglen orau’r Guardian. Cymaint oedd ei phoblogrwydd fel y ffilmiwyd cyfres deledu yn seiliedig ar y stori yn 1969, a chomisiynwyd drama radio yn 2000. Rhyfedd ar un olwg, felly, ei bod wedi cymryd hanner can mlynedd cyn ei haddasu i’r Gymraeg oherwydd bod y cysylltiad â Chymru mor ganolog i’r nofel. Mae’r stori’n seiliedig ar chwedl Blodeuwedd ac mae nodyn gan yr awdur yng nghefn y gyfrol hon yn esbonio pam ei fod wedi ei gyfareddu gan yr hen stori. Mae hanes creu’r stori’n ddigon rhyfedd ynddi ei hun a does dim rhyfedd fod Alan Garner wedi teimlo rhyw atyniad at yr hanes. Mae’r stori’n troi o gwmpas tri pherson ifanc yn eu harddegau. Mae Alison a Roger yn hanner brawd a chwaer sy’n treulio cyfnodau o wyliau estynedig mewn hen blasty mewn cwm anghysbell yn ardal Llanymawddwy. Saeson ydyn nhw, ond Cymro ydy Gwyn, mab y ‘forwyn’ ac mae’r gwahaniaethau yng nghefndiroedd y ddau ddiwylliant yn achosi tyndra yn ystod y nofel. Mae agweddau trahaus y Saeson tuag at y Cymry lleol yn cael sylw yma, ynghyd ag atgasedd y Cymry at y Saeson cyfoethog sy'n symud i gefn gwlad Cymru. Ceir cyfeiriad at ddymuniad Gwyn i ddysgu Saesneg er mwyn dianc o’r cwm a ‘dod ymlaen yn y byd’, ac mae ymateb Roger i hynny’n dangos y dirywio a fu yn eu perthynas nhw yn ystod y gwyliau. Mae cefndiroedd y plant yn gymhleth ac yn ychwanegu at y diffyg dealltwriaeth sy’n aml yn codi rhyngddynt wrth i’r stori ddatblygu. Yn ogystal â’r tensiynau rhwng y gwahanol gefndiroedd a’r gwahanol ddiwylliannau, mae’r stori’n tynnu’n drwm ar y tensiynau sy’n codi wrth i'r tri cymeriad ddechrau troi’n oedolion, a’r gwahanol emosiynau sydd ynghlwm wrth dyfu i fyny. Roedd Alan Garner wedi defnyddio llawer o ddeialog i symud y stori yn ei blaen yn y nofel wreiddiol, ac mae nodyn gan Bethan Gwanas yng nghefn y gyfrol yn cyfaddef nad oedd cyfieithu’r gwreiddiol yn hawdd o gwbl. Roedd dewis sut oedd y cymeriadau i siarad efo’i gilydd wedi bod yn heriol iddi, ac efallai nad yw ‘llais’ bob cymeriad yn llwyddo yn hynny o beth. I’r rhai ohonoch sy’n hoffi diweddglo twt a thaclus, efallai nad hon yw’r gyfrol i chi ac fe fydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd ymateb pobl ifanc Cymru heddiw i’r gyfrol arloesol hon. -- Hefin Jones @ www.gwales.com
-
FREE UK delivery for all orders over £20
Worldwide shipping from £2.99
-
Over 6 million books available and ready to ship!
-
Excellent customer service & over 3 million satisfied customers